Etholaeth Senedd Ewrop

Etholir Aelodau Senedd Ewrop (ASEau) gan boblogaeth aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd (UE). Mae Deddf Etholiadol Ewrop 2002 yn caniatáu i aelod-wladwriaethau ddewis creu israniadau etholiadol neu etholaethau (Saesneg: constituencies; Ffrangeg: circonscriptions électorales; Almaeneg: Wahlkreise) ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop mewn sawl ffordd wahanol.[1]

Mae’r rhan fwyaf o wledydd yr UE yn gweithredu un etholaeth genedlaethol sy’n ethol ASEau ar gyfer y wlad gyfan.[1] Mae dwy aelod-wladwriaeth, Gwlad Belg ac Iwerddon, wedi'u hisrannu'n etholaethau, lle cyfrifir canlyniadau etholiadol ar wahân ym mhob etholaeth.[1] Mae'r Almaen, yr Eidal a Gwlad Pwyl wedi'u hisrannu'n ardaloedd etholiadol, lle pennir nifer y cynrychiolwyr ar y lefel genedlaethol yn gymesur â'r pleidleisiau a fwriwyd ym mhob ardal.[1]

Yn yr Almaen, gall pleidiau gwleidyddol gyflwyno rhestrau o ymgeiswyr naill ai ar lefel Länder neu ar lefel genedlaethol.

Ar hyn o bryd, mae pob etholaeth yn defnyddio gwahanol fathau o gynrychiolaeth gyfrannol (PR), ac eithrio'r coleg etholiadol un sedd Almaeneg ei hiaith yng Ngwlad Belg, sy'n defnyddio'r system cyntaf i'r felin. Nid yw'r senedd yn ei chyfanrwydd yn dilyn cynrychiolaeth gyfrannol, oherwydd dosbarthir seddi rhwng aelod-wladwriaethau trwy gymesuredd disgynnol.

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Oelbermann, Kai-Friederike; Palomares, Antonio; Pukelsheim, Friedrich (2010). "The 2009 European Parliament Elections: From Votes to Seats in 27 Ways". European Electoral Studies 5 (1): 148–182. http://ispo.fss.muni.cz/uploads/EVS/010/EVS2_2010_4.pdf. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "oelbermann2010" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne